Cyfarwyddiadau Ymarfer

Mae gan Lywydd y Tribiwnlys y pŵer i roi Cyfarwyddiadau Ymarfer er mwyn egluro arferion a gweithdrefnau’r Tribiwnlys. Bwriad y Cyfarwyddiadau Ymarfer yw darparu cyngor ymarferol ar sut i ddehongli a chymhwyso’r Rheolau.

Gellir lawrlwytho’r Cyfarwyddiadau Ymarfer neu, os hoffech i ni anfon copi atoch cysylltwch â ni.

Nid yw cynnwys y Cyfarwyddiadau Ymarfer yn newid darpariaethau’r Rheolau (na’r Mesur) mewn unrhyw ffordd. Os ceir unrhyw anghysondeb rhwng y Cyfarwyddyd a darpariaethau’r Rheolau (neu rhai’r Mesur), y darpariaethau hynny bydd â blaenoriaeth.