Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

O dan adran 123 o’r Mesur, mae’n ddyletswydd ar y Llywydd i wneud Rheolau Tribiwnlys sy’n rhagnodi’r arferion a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys. Daeth y Rheolau hynny i rym ar 30 Ebrill 2015.

Pwrpas cael Rheolau gweithdrefnol yw sicrhau bod yr holl achosion sy’n dod o flaen y Tribiwnlys yn cael eu trin yn deg ac yn gyson.

Mae angen i bawb sy’n dod ag achos o flaen y Tribiwnlys ddeall yn union pa gamau sydd rhaid iddynt eu cymryd er mwyn i ffeithiau’r anghydfod, a’u dadleuon, medru cael eu cyflwyno’n effeithiol i’r Tribiwnlys.

Rhaid i bob parti hefyd fedru gwybod pa ddadleuon y bydd y partïon eraill yn gofyn i’r Tribiwnlys eu hystyried.

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015 (dolen allanol).