Canllawiau a Ffurflenni

Mae gwybodaeth ynghylch pa bryd a sut rydych yn gallu gwneud apêl i Dribiwnlys y Gymraeg ar gael yn ein canllawiau.

Gallwch herio penderfyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg sy’n ymwneud â Safonau’r Gymraeg o dan yr amgylchiadau canlynol:

Herio Safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg

Apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg

Adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gŵyn.

Pwysig: Fel arfer, bydd rhaid i chi wneud eich cais i’r Tribiwnlys o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y cawsoch eich hysbysu’n swyddogol o benderfyniad y Comisiynydd.

Er mwyn cychwyn cais, ddylech lenwi’r ffurflen Hysbysiad Cais a’i dychwelyd i’r Tribiwnlys drwy e-bost i tyg@llyw.cymru neu’i phostio i:

Tribiwnlys y Gymraeg
Oak House
Parc Cleppa
Celtic Springs
Casnewydd
NP10 8BD

Os hoffech i ni anfon copi caled o’r ffurflen gais atoch, cysylltwch â ni yn un o’r cyfeiriadau uchod.  Fe all ein rhestr o eiriau a’r dudalen cwestiynau cyffredin fod o gymorth.

Unwaith y bydd cais i’r Tribiwnlys wedi’i wneud, caiff person ar wahân i’r ceisydd a’r Comisiynydd wneud cais i gael ei gysylltu fel parti i’r achos. Am fwy o wybodaeth am sut i wneud hynny, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin - Gwneud Cais.