Gwneud Cais am Ailystyried Gwrthod Caniatâd ar gyfer Cais o dan Adran 103
Rheol 16 o Reolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015 ('y Rheolau')
Pan fo parti yn gwneud cais am adolygiad o benderfyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan adran 103 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i'r Tribiwnlys yn unol â rheol 16 o'r Rheolau i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i'r cais gael ei wneud.
Rhoddir caniatâd i’r cais os yw’r Tribiwnlys o’r farn fod ganddo obaith rhesymol o lwyddo, neu fod rhyw reswm cryf arall pam y dylai'r cais gael ei glywed.
Os bydd y Tribiwnlys o'r farn nad yw’r cais yn cyfuno â’r seiliau hyn, bydd yn gwrthod caniatâd ar gyfer y cais. Os yw'r cais wedi'i wneud ar fwy nag un sail, gall y Tribiwnlys benderfynu rhoi caniatâd wedi'i gyfyngu i'r seiliau y mae'n credu sydd â gobaith rhesymol o lwyddo neu fod rhyw reswm cryf arall pam y dylid eu clywed.
Gall ceisydd hawlio bod y Tribiwnlys, mewn gwrandawiad, yn ailystyried y penderfyniad gwrthod caniatâd ar gyfer y cais, neu'r penderfyniad i roi caniatâd ar gyfer y cais mewn perthynas â rhai seiliau yn unig.