Herio Safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg

Gall rhywun sydd wedi derbyn hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg, apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd.

Rhaid i unrhyw un sydd wedi derbyn hysbysiad cydymffurfio, ac sydd am ei herio, o dan adran 54 o’r Mesur, ofyn i’r Comisiynydd ail-ystyried y gofyniad i gydymffurfio â Safon cyn y diwrnod gosod.

Bydd gan unrhyw un sydd eisoes o dan ofyniad i gydymffurfio â Safon hawl o dan adran 55 o’r Mesur i ofyn i’r Comisiynydd ail-ystyried y gofyniad hwnnw, ond dim ond os bydd amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers i’r gofyniad hwnnw ddod i rym.

Rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg benderfynu a yw’r gofyniad yn “afresymol neu’n anghymesur”. Os bydd y Comisiynydd yn dyfarnu nad yw’r gofyniad yn afresymol nac yn anghymesur gall y person apelio (o fewn 28 diwrnod)  at y Tribiwnlys o dan adran 58 o’r Mesur.

Rhaid i’r Tribiwnlys, yntau, ddyfarnu a yw’r gofyniad yn “afresymol neu’n anghymesur”.

Ar gyfer apêl o dan adran 58, ticiwch flwch 3a ar y ffurflen Hysbysiad Cais isod. Os ydych yn cael trafferth wrth lawrlwytho’r ffurflen neu os hoffech dderbyn y ffurflen ar fformat gwahanol cysylltwch â ni.