Sut mae gwneud cais i'r Tribiwnlys?
Er mwyn gwneud cais neu apêl, dylech chi lenwi'r ffurflen Hysbysiad Cais a'i hanfon i’r Tribiwnlys. Derbynir ceisiadau trwy e-bost neu gopi caled, naill ai trwy’r post neu wrth law. Gallwch lawrlwytho y ffurflen gais o’r wefan hon, neu gallwch gysylltu â swyddfa'r Tribiwnlys os hoffech i ni anfon ffurflen gais atoch.
Beth os oes gennyf unrhyw anghenion ychwanegol?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych - er enghraifft, os bydd angen arwyddwr neu ddehonglydd arwyddiaith arnoch yn y gwrandawiad, neu os bydd angen gwneud unrhyw drefniadau ychwanegol ar gyfer y gwrandawiad. Dylech wneud hynny wrth anfon eich hysbysiad cais atom.
All y Tribiwnlys roi cyngor?
Mae'r Tribiwnlys yn gorff barnwrol annibynnol ac felly rhaid iddo fod yn ddiduedd wrth ddelio ag anghydfodau. Gall ysgrifenyddiaeth y Tribiwnlys roi gwybodaeth am weithdrefnau'r Tribiwnlys, ond ni all y Tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol na chanllawiau ar sut i eirio eich Hysbysiad Cais.
Oes terfyn amser ar gyfer gwneud cais?
Fel arfer, rhaid i’ch Hysbysiad Cais ddod i law’r Tribiwnlys o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y rhoddodd y Comisiynydd hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad yr ydych yn ei herio. Ond mae gan y Tribiwnlys bŵer i ymestyn y cyfnod hwnnw yn unol â Rheolau’r Tribiwnlys (Rheol 14).
Oes rhaid imi dalu ffi i wneud cais?
Nid oes ffi am wneud cais i’r Tribiwnlys.
Rwyf am gael fy nghysylltu fel parti i gais. Beth sydd rhaid imi wneud?
Mae Rheol 35 o Reolau’r Tribiwnlys yn caniatáu i berson wneud cais am gael ei gysylltu fel parti i achos. Os bydd y Tribiwnlys yn cytuno i’r cais, daw’r person hwnnw’n barti i’r achos, fel y Comisiynydd a’r ceisydd, ac yn medru (er enghraifft) cyflwyno tystiolaeth i’r Tribiwnlys.
Nid oes rhaid defnyddio unrhyw ffurlen benodol er mwyn gwneud cais. Bydd llythyr at y Tribiwnlys yn gofyn am gael eich cysylltu fel parti i’r achos dan sylw yn ddigon. Ond er mwyn penderfynu ar eich cais, bydd rhaid i’r Tribiwnlys ystyried yr amgylchiadau perthnasol. Er mwyn lleihau unrhyw oedi, dylai eich llythyr esbonio, felly, natur eich diddordeb yn yr achos ac amlinellu unrhyw dystiolaeth neu ddadleuon y byddwch am gyflwyno i’r Tribiwnlys cyn iddo ddod i benderfyniad terfynol yn yr achos.
A fyddaf yn medru hawlio costau dod â’r achos os bydd fy apêl yn llwyddo? Ac a fydd rhaid imi dalu costau’r partïon eraill i’r achos os bydd fy apêl yn aflwyddiannus?
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol gall y Tribiwnlys, yn unol â Rheol 55 o Reolau’r Tribiwnlys, gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau.
Beth sy'n digwydd os byddaf am dynnu fy nghais yn ôl?
Ar yr amod mai chi yw'r ymgeisydd, gallwch dynnu eich cais yn ôl unrhyw bryd. Dylech hysbysu'r Tribiwnlys yn ysgrifenedig ac anfon copi o'ch llythyr at bob parti arall sy'n ymwneud â'r cais.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r Tribiwnlys dderbyn Hysbysiad Cais?
Bydd copi o'r cais a'r holl ddogfennau a ddarparwyd gyda'r cais yn cael eu hanfon at y Comisiynydd, sydd yn ymatebydd i bob cais am apêl. Bydd y Comisiynydd (ac unrhyw barti arall i’r achos) yn cael cyfle i ymateb. Unwaith y bydd yr holl dystiolaeth wedi dod i law, bydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â’r partïon, yn gwneud trefniadau ar gyfer gwrando’r achos.
Pwy sy'n cael copi o'r dystiolaeth a gyflwynir ar gyfer apêl neu gais?
Rhaid i bob parti i'r cais gael copi o dystiolaeth ei gilydd. Mae'r dystiolaeth hon yn cynnwys y ffurflen Hysbysiad Cais yn ogystal â'r holl ohebiaeth, papurau a dogfennau sydd wedi'u cyflwyno i'r Tribiwnlys gan y person sy'n gwneud yr apêl, gan y Comisiynydd fel yr ymatebydd, a chan unrhyw barti arall i’r achos. Bydd y panel Tribiwnlys hefyd yn cael copïau o'r holl dystiolaeth a dderbyniwyd gan y Tribiwnlys er mwyn medru ystyried yr achos.
Pa mor hir y mae'n rhaid aros o'r adeg pan fydd y Tribiwnlys yn cael cais i'r adeg pan fydd yn gwneud penderfyniad?
Bydd yr amserlen yn amrywio yn dibynnu ar y math o achos ond mae'r Tribiwnlys bob amser yn ceisio delio â cheisiadau'n brydlon a rhoi'r wybodaeth ddiweddarach i chi am hynt yr achos.
Beth yw ystyr y termau sy’n cael eu defnyddio gan y Tribiwnlys?
Ewch i’r dudalen Rhestr Termau.
Pa wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi gan y Tribiwnlys?
Ewch i’r dudalen Cofrestr Cyhoeddiadau.