Croeso i Dribiwnlys y Gymraeg

Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn dribiwnlys annibynnol. Rydym yn delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg.

Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg

Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol (JAC) yn cynnal ymgyrch recriwtio i benodi Llywydd ar gyfer Tribiwnlys y Gymraeg. 

Mae'r penodiad hwn yn gyfle pwysig i arwain a gweinyddu gwaith tribiwnlys bychan, annibynnol.

Bydd yr ymgyrch yn agor am 1pm ar ddydd Mercher 13 Mawrth, ac yn cau am 1pm ar ddydd Mercher 27 Mawrth. 

Dysgwch fwy ar wefan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys

Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post.  Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i tyg@llyw.cymru.

Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 03000 256702 i wneud trefniadau eraill.

Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.

Rydym yn delio â materion sy’n ymwneud â:

Challenging Standards imposed by the Welsh Language Commissioner

Herio Safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg

Gall rhywun sydd wedi derbyn hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg (dogfen s'yn gofyn iddynt gydymffurfio gyda Safonau’r Iaith Gymraeg):

  • Apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd mewn perthynas â gosod y Safonau hynny.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am Safonau’r Gymraeg ar Wefan Comisiynydd y Gymraeg

Dysgwch fwy
Apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad gan y Comisiynydd

Apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad gan y Comisiynydd

Gall rhywun sydd wedi bod yn destun ymchwiliad ynghylch methiant honedig i gydymffurfio â Safon apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd ac yn erbyn unrhyw gamau gorfodi.

Yn ystod ymchwiliad, gall y Comisiynydd orfodi person i ddarparu gwybodaeth, datgelu dogfennau neu roi tystiolaeth, at ddibenion yr ymchwiliad, trwy roi i’r person hwnnw 'hysbysiad tystiolaeth'. Mae gan berson sy’n derbyn hysbysiad tystiolaeth yr hawl i’w herio trwy apelio i’r Tribiwnlys.

Gall aelod o’r cyhoedd apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd i wrthod cwyn fod rhywun wedi methu â chydymffurfio â Safon.

Dysgwch fwy
Reviewing a decision by the Commissioner not to investigate a complaint

Adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gŵyn

Gall aelod o’r cyhoedd sydd wedi cwyno wrth Gomisiynydd y Gymraeg bod rhywun wedi methu â chydymffurfio â Safon:

  • Wneud cais i’r Tribiwnlys am adolygiad os yw'r Comisiynydd wedi penderfynu i beidio â chynnal ymchwiliad ffurfiol i’r cwyn (neu i derfynu ymchwiliad ar ôl iddo gael ei gychwyn)
Dysgwch fwy

Ein Cefndir

Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn gorff statudol annibynnol. Cafodd Llywydd ac Aelodau’r Tribiwnlys eu penodi trwy broses a luniwyd er mwyn sicrhau eu bod yn annibynnol a’u bod yn gwneud penderfyniadau gwrthrychol, yn unol â’r gyfraith. Gellid apelio yn erbyn penderfyniadau’r Tribiwnlys, ar bwynt cyfreithiol, i’r Uchel Lys.

Sefydlwyd y Tribiwnlys ym mis Ebrill 2015 o dan Adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r adnoddau i alluogi’r Tribiwnlys i wneud ei waith. Ceir gwybodaeth ystadegol a chyllidol am waith y Tribiwnlys yn ei Adroddiad Blynyddol.

Dysgwch fwy

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.