Apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad gan y Comisiynydd

Mewn rhai achosion, mae'n bosib apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Gall y Comisiynydd gynnal ymchwiliad o dan adran 71 o’r Mesur i gŵyn fod rhywun wedi methu â chydymffurfio â Safon.

Ar ddiwedd ymchwiliad, bydd y Comisiynydd yn dyfarnu:

  • a fu methiant
  • os felly, pa gamau gorfodi i’w cymryd

Gall y person y bu’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef apelio i‘r Tribiwnlys (o fewn 28 diwrnod) o dan adran 95 o’r Mesur, ar y sail:

  • fod y Comisiynydd yn anghywir i ddyfarnu fod methiant i gydymffurfio wedi bod (adran 95(2) ) neu
  • fod camau gorfodi arfaethedig y Comisiynydd yn afresymol neu’n anghymesur (adran 95(4) ).

Yn achos apêl yn erbyn camau gorfodi arfaethedig, bydd y Tribiwnlys yn gallu amrywio’r camau hynny.

Ar gyfer apêl ar y sail fod y Comisiynydd yn anghywir i ddyfarnu bod methiant i gydymffurfio wedi bod, ticiwch flwch 3b ar y ffurflen Hysbysiad Cais.

Ar gyfer apêl fod camau gorfodi arfaethedig y Comisiynydd yn afresymol neu’n anghymesur, ticiwch flwch 3c ar y ffurflen Hysbysiad Cais.

Apêl gan achwynydd

Gall achwynydd (hynny yw, person a wnaeth cwyn i’r Comisiynydd a arweiniodd at ymchwiliad) apelio i'r Tribiwnlys (o fewn 28 diwrnod) o dan adran 99 o’r Mesur os bydd y Comisiynydd, ar ôl ymchwiliad, wedi dyfarnu nad oedd methiant i gydymffurfio wedi bod.

Ar gyfer apêl yn erbyn dyfarniad y Comisiynydd nad oedd methiant i gydymffurfio wedi bod, ticiwch flwch 3d ar y ffurflen Hysbysiad Cais.

Gellir lawrlwytho ein ffurflen gais. Os ydych yn cael trafferth wrth lawrlwytho’r ffurflen neu os hoffech dderbyn y ffurflen ar fformat gwahanol cysylltwch â ni.

Apêl yn erbyn hysbysiad tystiolaeth

Os byddwch wedi derbyn hysbysiad tystiolaeth oddi wrth y Comisiynydd ac am apelio yn ei erbyn, defnyddiwch y ffurflen Hysbysiad Cais. Ni fydd angen i chwi roi tic yn un o’r blychau yn rhan gyntaf adran 3 o’r Hysbysiad, ond dylech gynnwys datganiad o natur eich cais, gyda’ch rhesymau dros ei wneud, yn y blwch ar gyfer rhoi’r rhesymau hynny (neu mewn dogfen ar wahân os oes angen). Os ydych am fwy o wybodaeth am y math yma o apêl, cysylltwch â’r Tribiwnlys.