Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn gorff statudol sydd yn delio gydag apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg.
Ffeithiau allweddol:
- Mae’r Tribiwnlys yn dribiwnlys annibynnol. Cafodd ei sefydlu yn 2015 o dan adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
- Llywydd y Tribiwnlys yw Iwan Jenkins.
- Mae aelodaeth y Tribiwnlys yn cynnwys rhai sy’n gyfreithiol gymwys a hefyd aelodau lleyg.
- Aelodau’r Tribiwnlys sydd (o dan arweinyddiaeth y Llywydd), yn gyfrifol am waith barnwrol y Tribiwnlys, gan gynnwys gwrando achosion a gwneud penderfyniadau arnynt.
- Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol, o dan y Mesur, am sicrhau bod gan y Tribiwnlys y staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau sy’n galluogi’r Tribiwnlys i wneud ei waith.
- Ysgrifenyddiaeth y Tribiwnlys sy’n gyfrifol am gyflawni ‘r gwaith gweinyddol sydd ynghlwm wrth brosesu achosion.