Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn byw y gellir ei defnyddio i ddweud pwy ydyw, er enghraifft, ei enw, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad e-bost neu ei gymwysterau. Tribiwnlys y Gymraeg (y Tribiwnlys) a Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli eich data personol.
Pam ydych chi’n prosesu fy ngwybodaeth bersonol?
Wrth gyfeirio at brosesu, rydym yn golygu unrhyw beth a wneir â’ch data personol, fel eu casglu, eu storio, eu haddasu neu eu dinistrio. Mae gwneud nodiadau yn ystod gwrandawiad tribiwnlys neu gyhoeddi penderfyniad y Tribiwnlys yn enghreifftiau o brosesu.
Rydym yn prosesu eich data personol oherwydd bod hynny’n angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd. Felly mae hyn yn unol ag Erthygl 6(e) y GDPR.
Mae hyn yn hanfodol oherwydd mae’n rhaid i’r Tribiwnlys brosesu eich data er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn unol â’r ddeddfwriaeth ganlynol:
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1).
- Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015 (O.S. 2015/1028) (Cy. 76)
Pa gategorïau o ddata personol ydych chi’n eu prosesu?
Er nad yw’r Tribiwnlys yn prosesu data categori arbennig fel mater o drefn, gall fod yn angenrheidiol o bryd i'w gilydd. Mae categorïau arbennig o ddata personol yn cynnwys gwybodaeth am hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data ynghylch genynnau neu ddata biometrig at ddibenion adnabod bod dynol, data am iechyd neu ddata ynghylch bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol. Rhestrir y categorïau hyn o dan Erthygl 9(1) y GDPR.
Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol er mwyn sefydlu, er mwyn arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y bydd y llysoedd yn arfer eu gwaith barnwrol yn unol ag Erthygl 9(2) y GDPR y bydd y Tribiwnlys yn prosesu data categori arbennig.
O ble ydych chi’n cael data personol amdanaf?
Gall y Tribiwnlys gael eich data personol o’r ffynonellau canlynol:
- Gallwch ddarparu eich data personol eich hun i’r Tribiwnlys
- Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol
- Gwasanaethau Eirioli
- Comisiynydd y Gymraeg
- Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill
Ydych chi’n rhannu fy nata personol ag unrhyw un arall?
O ran y ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r broses o wneud cais (Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015), byddwn yn anfon copïau o unrhyw gais, atodiad, gohebiaeth a sylwadau i’r partïon eraill a’u cynrychiolwyr.
Mewn unrhyw fath o achos, pan fydd y tribiwnlys yn penderfynu bod angen tystiolaeth arbenigol i helpu i wneud penderfyniad ynghylch yr achos, bydd y data perthnasol sy’n ymwneud â’r achos yn cael eu rhannu â’r trydydd parti. Bydd pob parti’n cael gwybod am hyn ar y pryd, ac yn cael copi o unrhyw adroddiad y bydd trydydd parti yn ei dderbyn.
Cyhoeddir penderfyniadau’r Tribiwnlys ar ei wefan. Gall penderfyniadau o dan y gwahanol awdurdodaethau gynnwys enwau’r partïon. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond yr enw y mae modd chwilio amdano ar ein gwefan, yn dibynnu ar yr awdurdodaeth.
Yn gyffredinol, rhaid cynnal achosion tribiwnlys (gwrandawiadau) yn gyhoeddus. Mae hon yn agwedd ar yr hawl cyfansoddiadol i gyfiawnder agored. Byddai’n rhaid cyflwyno rhesymau eithriadol dros gynnal gwrandawiad yn breifat.
At ddibenion cynnal gwrandawiadau rhith, bydd Kinly yn brosesydd data ar ran y Tribiwnlys a Llywodraeth Cymru. Bydd Kinly yn cadw cofnodion o fanylion galwadau am 2 flynedd gan gynnwys dyddiad ac amser y gwrandawiad, cyfeiriadau cyfranogwyr (cyfeiriad dyfeisiau fideo, cyfeiriad Skype, cyfeiriad IP), hyd galwad, dyfais a ddefnyddir i gysylltu a lleoliad (yn seiliedig ar gyfeiriad IP).
Ydych chi’n trosglwyddo fy nata personol i wledydd eraill?
Dim ond pan na fyddai parti neu barti sydd â diddordeb yn byw yn y Deyrnas Unedig y byddai’r Tribiwnlys yn trosglwyddo data i wledydd eraill. Mewn achosion o’r fath, byddai papurau’r achos yn cael eu hanfon at y parti drwy e-bost neu drwy gyfrwng Post Safonol Rhyngwladol Grŵp y Post Brenhinol Cyf neu drwy e-bost diogel.
Pa mor hir ydych chi'n cadw fy nata personol?
Byddwn yn cadw eich data am hyd at chwe blynedd, yn unol â’n Hamserlen Cadw a Gwaredu.
Pa hawliau sydd gennyf?
- Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad bod eich data’n cael eu prosesu a hawl i gael gafael ar eich data personol
- Mae gennych hawl i gael cywiro eich data personol os yw’r data yn anghywir neu’n anghyflawn
- Mae gennych hawl i gael dileu data personol ac atal prosesu mewn rhai amgylchiadau
- Mae gennych yr hawl i ‘rwystro’ neu atal data personol rhag cael eu prosesu mewn rhai amgylchiadau
- Mae gennych yr hawl i gludadwyedd data mewn rhai amgylchiadau
- Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ran ohono, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru
Rheolydd Data
Swyddfa’r Llywydd
Tribiwnlys y Gymraeg
Tŷ Southgate
Stryd Wood
Caerdydd
CF10 1EW
E-bost: tyg@llyw.cymru
Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd
Llywodraeth Cymru
2il Lawr, Adain y De
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Sut mae modd i mi gwyno os nad ydw i’n fodlon?
Os nad ydych chi’n fodlon ag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu â sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru
Os ydych chi’n dal yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cwyn drwy gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk/global/contact-us/