Awst 2019
Mae Prif Weinidog Cymru wedi penodi Mr Iwan Jenkins fel Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg. Cafodd Mr Jenkins ei benodi yn dilyn cystadleuaeth agored a chafodd ei weinyddu gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Mae Mr Jenkins wedi cael gyrfa hir a nodedig yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Bydd Mr Jenkins yn cychwyn yn rôl y Llywydd ar 1 Awst 2019.
Ymddeolodd Keith Bush CF, Llywydd cyntaf y Tribiwnlys, ar 31 Gorffennaf 2019. Hoffem ddiolch i Mr Bush am ei wasanaeth rhagorol a’i holl waith caled yn sefydlu'r Tribiwnlys.
Mai 2019
Gofynnwyd i'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol (CPB) enwi un ymgeisydd i'w argymell fel Aelod Cyfreithiol o Dribiwnlys y Gymraeg. Disgwylir lansio’r ymgyrch ar 15 Mai 2019.
Pwy sy’n cael gwneud cais
- Mae’r ymarfer hwn yn agored i gyfreithwyr a bargyfreithwyr gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad cyfreithiol ar ôl cymhwyso.
- Rhaid i ymgeiswyr allu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg i safon a fydd yn galluogi'r unigolyn hwnnw i gyflawni busnes y Tribiwnlys yn y ddwy iaith.
- Ar ben hynny, bydd angen i ymgeiswyr ddeall y drefn gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, neu feddu ar y gallu i ddysgu am hynny, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn iau na 70 oed ar y dyddiad penodi.
Am ragor o wybodaeth a gwybodaeth am sut i wneud cais e-bostiwch: WLTMember173@judicialappointments.gov.uk
Chwefror 2019
Gofynnwyd i'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol (CPB) enwi un ymgeisydd i'w argymell fel Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg.
Pwy sy’n cael gwneud cais
- Mae’r ymarfer hwn yn agored i gyfreithwyr a bargyfreithwyr gydag o leiaf 10 mlynedd o brofiad cyfreithiol ar ôl cymhwyso.
- Rhaid i ymgeiswyr allu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg i safon a fydd yn galluogi'r unigolyn hwnnw i gyflawni busnes y Tribiwnlys yn y ddwy iaith.
- Ar ben hynny, bydd angen i ymgeiswyr ddeall y drefn gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, neu feddu ar y gallu i ddysgu am hynny, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn iau na 70 oed ar y dyddiad penodi.
Am rhagor o wybodaeth a gwybodaeth am sut i wneud cais: https://www.judicialappointments.gov.uk/vacancies/127
Hydref 2017
Ymateb y Tribiwnlys i bapur ymgynghori Llywodraeth Cymru: "Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg". Darllenwch yma.
8 Awst 2016
Cyflwyniad gan Lywydd y Tribiwnlys i sesiwn a drefnwyd gan y Ganolfan Gynllunio Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, y Fenni, 4 Awst 2016.
18 Mawrth 2016
Cyflwyniad i Gynhadledd Gyfreithiol Llywodraeth Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, gan Lywydd Tribiwnlys y Gymraeg, Keith Bush CF.