Aelodau ac Ysgrifenyddiaeth Tribiwnlys y Gymraeg

Mae’r Tribiwnlys yn gweithredu trwy ei aelodau a’i ysgrifenyddiaeth. Mae'r ddwy ran yn cydweithio wrth drin ag achosion, gan gyflawni tasgau gwahanol.

Aelodau'r Panel

Caiff Tribiwnlys y Gymraeg ei arwain gan Lywydd y Tribiwnlys. Y Llywydd sydd â chyfrifoldeb am drefnu gwaith yr aelodau, ac am wneud rhai penderfyniadau penodol mewn Perthynas ag apeliadau a chwynion. Gweinidogion Cymru sy’n penodi Llywydd y Tribiwnlys ac mae’n rhaid i'r Llywydd cael deng mlynedd o leiaf o brofiad fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr.

Caiff gwrandawiadau'r Tribiwnlys eu cynnal gan banel o dan arweinyddiaeth gadeirydd, sydd yn berchen ar gymhwyster cyfreithiol. Bydd y cadeirydd yn llywyddu ar y gwrandawiad ac ysgrifennu’r dyfarniad yn unol â phenderfyniad y panel. Gall y cadeirydd hefyd ddelio gyda rhai materion gweithdrefnol, gan gynnwys rhoi  cyfarwyddiadau pan fo’n briodol. 

Mae gan aelodau lleyg hefyd swyddogaeth bwysig mewn gwrandawiadau. Mae’r aelodau hyn wedi cael eu dewis am eu gwybodaeth a’u profiad cyffredinol o fywyd yng Ngymru, yn ogystal â’u gallu i ddelio’n deg, ar sail y dystiolaeth, â’r achosion a ddaw o’u blaenau. Bydd aelodau yn medru gofyn cwestiynau yn ystod gwrandawiadau ac fe fyddant yn gwneud penderfyniad am yr achos ar y cyd â’r cadeirydd.

Llywydd

  • Iwan Jenkins

Aelod cyfreithiol

  • Rhodri Williams CB

Aelodau lleyg

  • Isata Kanneh
  • Sara Peacock
  • H Eifion Jones
  • Glenda Jones

Yr Ysgrifenyddiaeth

Mae'r ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am weinyddu'r Tribiwnlys. Pennaeth gweinyddol y Tribiwnlys yw’r Ysgrifennydd. Yr ysgrifenyddiaeth fydd yn delio gyda chofnodi eich apêl neu gŵyn, yn ysgrifennu atoch am fwy o wybodaeth, a’ch hysbysu ble a phryd y bydd apêl neu wrandawiad yn cael ei gynnal.

Ein bwriad yw darparu gwasanaeth cyfeillgar o ansawdd uchel.

Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar y wefan hon neu os oes unrhyw beth yn aneglur.