Adolygiadau
Rheolau 48 a 49 o Reolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015 ('y Rheolau')
Caiff parti wneud cais i'r Tribiwnlys am adolygiad o unrhyw benderfyniad sy'n cael yr effaith o ddod â'r cais i ben (ac eithrio penderfyniad o dan reol 16(3) o'r Rheolau i wrthod caniatâd i wneud cais am adolygiad o benderfyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg: gweler Gwneud Cais am Ailystyried Gwrthod Caniatâd ar gyfer Cais o dan Adran 103 isod) ar y sail:
a) y gwnaed y penderfyniad ar gam o ganlyniad i gamgymeriad materol ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys;
b) roedd gan barti, a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros fethu ag ymddangos; neu
c) bu camgymeriad amlwg a phwysig yn y penderfyniad.
Rhaid i gais i benderfyniad gan y Tribiwnlys gael ei adolygu ei wneud yn ysgrifenedig yn nodi'r rhesymau, a rhaid iddo gael ei dderbyn gan y Tribiwnlys ddim hwyrach na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
Pan fo'r Tribiwnlys wedi penderfynu peidio ag ymestyn amser ar gyfer cyflwyno hysbysiad o gais o dan reol 11 y Rheolau, gall y person a gyflwynodd yr hysbysiad o gais hefyd wneud cais am adolygiad o'r penderfyniad ar yr un sail ac o fewn yr un cyfnod.
Apeliadau i’r Uchel Lys
Rheol 50 o Reolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015 ('y Rheolau')
Caiff parti, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar gwestiwn cyfreithiol sy'n deillio o benderfyniad gan y Tribiwnlys ar gais o dan baragraffau 59, 97, 101 neu 105 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Os gofynnir am ganiatâd i apelio i'r Uchel Lys gan y Tribiwnlys, rhaid i'r Tribiwnlys dderbyn y cais am ganiatâd i apelio ddim hwyrach na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
Ar ôl derbyn y cais am ganiatâd, bydd Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg yn ystyried yn gyntaf, gan ystyried yr amcan pennaf, a ddylid adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheol 48 o'r Rheolau, oni bai bod y penderfyniad eisoes wedi'i adolygu, neu os yw'r Llywydd wedi gwrthod cais am adolygiad.
Os bydd y Llywydd yn penderfynu peidio ag adolygu'r penderfyniad, neu’n adolygu'r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r penderfyniad neu'r rhan ohono y mae'r apêl arfaethedig yn ymwneud ag ef, bydd y Llywydd wedyn yn ystyried a ddylid rhoi caniatâd i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad neu'r rhan honno ohono.
Os gofynnir am ganiatâd i apelio i'r Uchel Lys gan yr Uchel Lys, rhaid gwneud y cais hwnnw yn unol â Rhan 52 o Reolau'r Weithdrefn Sifil (Civil Procedure Rules) (Saesneg yn unig).