Adolygu neu apelio yn erbyn penderfyniad gan y Tribiwnlys

Mae’n bosib gwneud cais i'r Tribiwnlys i adolygu benderfyniad, neu i apelio yn ei erbyn, ar sail y canlynol.

Adolygiadau

Caiff parti wneud cais i’r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniad ar y seiliau:

a) bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,
b) bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos, neu
c) bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad.

Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Tribiwnlys gael ei wneud mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau, ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.

Apeliadau i’r Uwch Lys

Caiff parti, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o benderfyniad y Tribiwnlys.

Rhaid i ni dderbyn eich cais am ganiatâd i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod calendr o’r ddyddiad y cawsoch eich hysbysu o benderfyniad y Tribiwnlys. Mae'n fater i unrhyw berson sy'n ystyried apêl i gymryd cyngor cyfreithiol eu hunain.