Cyfarwyddyd Ymarfer 3 - Arfer swyddogaethau’r Tribiwnlys

Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn disgrifio’r trefniadau ar gyfer pennu pwy fydd, fel arfer, yn gwneud penderfyniadau yn enw’r Tribiwnlys. Mae’n darparu, er enghraifft, mai Llywydd y Tribiwnlys (neu aelod arall o’r Tribiwnlys sydd â chymhwyster cyfreithiol) bydd yn delio gyda chwestiynau paratoadol, cyn y bydd achos yn cyrraedd gwrandawiad, tra bydd  y gwrandawiad, a’r penderfyniad terfynol ar yr achos, yn nwylo panel o dri aelod o’r Tribiwnlys.