Mae Rheol 10 o’r Rheolau yn darparu bod yn rhaid i gais i’r Tribiwnlys gael ei wneud trwy gyflwyno i’r Tribiwnlys ddogfen ysgrifenedig (hysbysiad cais). Mae Rheol 12 yn rhagnodi’r wybodaeth sydd rhaid i’w cynnwys mewn, a chyda, hysbysiad cais.
Pwrpas y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yw cyhoeddi ffurflen a fydd, trwy ei defnyddio gan geisydd, yn cynorthwyo’r ceisydd (neu gynrychiolydd y ceisydd) i gydymffurfio â gofynion Rheol 12. Dylid defnyddio’r ffurflen honno ar gyfer cyflwyno hysbysiad cais.
Nid yw’n ofyniad cyfreithiol i ddefnyddio’r ffurflen. Gall ceisydd gyflenwi’r wybodaeth sy’n cael ei rhagnodi gan Reol 12 mewn ffurf arall. Ond bydd defnyddio’r ffurflen yn:
- sicrhau bod yr holl wybodaeth ofynnol yn cael ei rhoi
- cynorthwyo’r Tribiwnlys i ystyried y wybodaeth honno yn y dull mwyaf cyson ac effeithiol ag sy’n bosibl.