Cyfarwyddyd Ymarfer 4 - Ceisiadau i’r Tribiwnlys i ddileu hysbysiad tystiolaeth

Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn cymhwyso gweithdrefnau’r Tribiwnlys i ddosbarth penodol o apeliadau a all godi allan o ymchwiliad gan y Comisiynydd i gwŷn, sef apeliadau i’r Tribiwnlys yn erbyn hysbysiadau tystiolaeth a roddwyd gan y Comisiynydd o dan baragraff  5 o Atodlen 10 i’r Mesur.