Mae Rheol 6 o’r Rheolau yn darparu:
- mai ieithoedd y Tribiwnlys yw’r Gymraeg a’r Saesneg
- bod gan bob parti neu dyst yr hawl i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall yn nhrafodion y Tribiwnlys.
Pwrpas y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yw rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli a gweithredu’r Rheolau mewn modd sy’n unol â Rheol 6.
Yn unol â Rheol 4(4), mae cynnwys y Cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau sy’n cael eu rhoi gan y Tribiwnlys mewn perthynas ag achos penodol.
Mae’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn ymwneud, yn unig, â chyfathrebiadau sy’n rhan o drafodion y Tribiwnlys mewn perthynas ag achos penodol ac sy’n cael eu rheoli gan ddarpariaethau’r Rheolau.