Adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gŵyn

Os bydd rhywun yn cwyno i’r Comisiynydd am fethiant honedig i gydymffurfio â Safon, ac os bydd y Comisiynydd yn penderfynu i beidio ag ymchwilio i’r gŵyn (neu’n penderfynu, ar ôl cychwyn ymchwiliad, i derfynu’r ymchwiliad) gall y person a wnaeth y gŵyn, o fewn 28 diwrnod, wneud cais i’r Tribiwnlys am adolygiad o benderfyniad y Comisiynydd.

Bydd y Tribiwnlys yn ymdrin a’r cais “fel pe bai’n gais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol” h.y. gan ystyried a yw’r Comisiynydd wedi defnyddio’r disgresiwn i beidio ag ymchwilio mewn ffordd gyfreithlon.

Rhaid i’r Tribiwnlys benderfynu’n gyntaf a ddylid rhoi caniatâd i ddod ag achos. Bydd caniatâd yn cael ei roi gan y Tribiwnlys os oes:

  • disgwyliad rhesymol y bydd y cais yn llwyddo; neu
  • reswm cryf arall pam y dylai’r cais gael ei glywed.

Ar gyfer adolygiad yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio ag archwilio gŵyn, ticiwch flwch 3e ar y ffurflen Hysbysiad Cais.

Gellir lawrlwytho ein ffurflen gais. Os ydych yn cael trafferth wrth lawrlwytho’r ffurflen neu os hoffech dderbyn y ffurflen ar fformat gwahanol cysylltwch â ni.