Cwestiynau Cyffredin

Gall ein cwestiynau cyffredin eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani.

Dewiswch y linc isod os gwelwch yn dda:

Mesur y Gymraeg

Beth yw Mesur y Gymraeg?

Mae’r Mesur:

  • yn sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru
  • yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg
  • yn creu trefn o gyflwyno dyletswyddau ar ffurf Safonau'r Iaith Gymraeg
  • yn sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg
  • yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Y Tribiwnlys a'i Bwerau

Beth mae Tribiwnlys y Gymraeg yn ei wneud?

Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn dribiwnlys annibynnol. Ein swyddogaeth yw delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg, mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg.

Pa bwerau sydd gan y Tribiwnlys?

Mae’r Mesur yn rhoi’r hawl i’r Tribiwnlys gynnal gwrandawiadau ar y materion canlynol:

  1. Apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd mewn perthynas â gosod Safonau’r Iaith Gymraeg.
  2. Apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynydd fod rhywun wedi methu â chydymffurfio â gofyniad un o Safonau’r Iaith Gymraeg.
  3. Apeliadau yn erbyn camau gorfodi'r Comisiynydd.
  4. Apeliadau gan achwynydd yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd nad yw rhywun wedi methu â chydymffurfio â Safon.
  5. Adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gŵyn (neu i derfynu ymchwiliad ar ôl iddo gael ei gychwyn).

Fel arfer yr unig bŵer sydd gan y Tribiwnlys yw cadarnhau neu ddirymu penderfyniad y Comisiynydd. Ond yn yr achos o apêl o dan adran 95(4) o’r Mesur, fe all y Tribiwnlys amrywio’r camau gorfodi.

Sut mae’r Tribiwnlys yn dod at benderfyniad?

Bydd y Tribiwnlys yn gwneud ei benderfyniad drwy ystyried y dystiolaeth i gyd. Mae hyn yn cynnwys yr holl dystiolaeth a anfonir gan y partïon cyn y gwrandawiad a'r hyn sy'n cael ei ddweud yn ystod y gwrandawiad. Mae’r Penderfyniadau a wneir gan Dribiwnlys y Gymraeg ar gael i’w gweld yn yr adran Penderfyniadau o’r wefan hon.

Gwneud cais

Sut mae gwneud cais i'r Tribiwnlys?

Er mwyn gwneud cais neu apêl, dylech chi lenwi'r ffurflen Hysbysiad Cais a'i hanfon i’r Tribiwnlys. Derbynir ceisiadau trwy e-bost neu gopi caled, naill ai trwy’r post neu wrth law. Gallwch lawrlwytho y ffurflen gais o’r wefan hon, neu gallwch gysylltu â swyddfa'r Tribiwnlys os hoffech i ni anfon ffurflen gais atoch.

Beth os oes gennyf unrhyw anghenion ychwanegol?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych - er enghraifft, os bydd angen arwyddwr neu ddehonglydd arwyddiaith arnoch yn y gwrandawiad, neu os bydd angen gwneud unrhyw drefniadau ychwanegol ar gyfer y gwrandawiad. Dylech wneud hynny wrth anfon eich hysbysiad cais atom.

All y Tribiwnlys roi cyngor?

Mae'r Tribiwnlys yn gorff barnwrol annibynnol ac felly rhaid iddo fod yn ddiduedd wrth ddelio ag anghydfodau. Gall ysgrifenyddiaeth y Tribiwnlys roi gwybodaeth am weithdrefnau'r Tribiwnlys, ond ni all y Tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol na chanllawiau ar sut i eirio eich Hysbysiad Cais.

Oes terfyn amser ar gyfer gwneud cais?

Fel arfer, rhaid i’ch Hysbysiad Cais ddod i law’r Tribiwnlys o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y rhoddodd y Comisiynydd hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad yr ydych yn ei herio. Ond mae gan y Tribiwnlys bŵer i ymestyn y cyfnod hwnnw yn unol â Rheolau’r Tribiwnlys (Rheol 14).

Oes rhaid imi dalu ffi i wneud cais?

Nid oes ffi am wneud cais i’r Tribiwnlys.

Rwyf am gael fy nghysylltu fel parti i gais. Beth sydd rhaid imi wneud?

Mae Rheol 35 o Reolau’r Tribiwnlys yn caniatáu i berson wneud cais am gael ei gysylltu fel parti i achos. Os bydd y Tribiwnlys yn cytuno i’r cais, daw’r person hwnnw’n barti i’r achos, fel y Comisiynydd a’r ceisydd, ac yn medru (er enghraifft) cyflwyno tystiolaeth i’r Tribiwnlys.

Nid oes rhaid defnyddio unrhyw ffurlen benodol er mwyn gwneud cais. Bydd llythyr at y Tribiwnlys yn gofyn am gael eich cysylltu fel parti i’r achos dan sylw yn ddigon. Ond er mwyn penderfynu ar eich cais, bydd rhaid i’r Tribiwnlys ystyried yr amgylchiadau perthnasol. Er mwyn lleihau unrhyw oedi, dylai eich llythyr esbonio, felly, natur eich diddordeb yn yr achos ac amlinellu unrhyw dystiolaeth neu ddadleuon y byddwch am gyflwyno i’r Tribiwnlys cyn iddo ddod i benderfyniad terfynol yn yr achos.

A fyddaf yn medru hawlio costau dod â’r achos os bydd fy apêl yn llwyddo? Ac a fydd rhaid imi dalu costau’r partïon eraill i’r achos os bydd fy apêl yn aflwyddiannus?

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol gall y Tribiwnlys, yn unol â Rheol 55 o Reolau’r Tribiwnlys, gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau.

Beth sy'n digwydd os byddaf am dynnu fy nghais yn ôl?

Ar yr amod mai chi yw'r ymgeisydd, gallwch dynnu eich cais yn ôl unrhyw bryd. Dylech hysbysu'r Tribiwnlys yn ysgrifenedig ac anfon copi o'ch llythyr at bob parti arall sy'n ymwneud â'r cais.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r Tribiwnlys dderbyn Hysbysiad Cais?

Bydd copi o'r cais a'r holl ddogfennau a ddarparwyd gyda'r cais yn cael eu hanfon at y Comisiynydd, sydd yn ymatebydd i bob cais am apêl. Bydd y Comisiynydd (ac unrhyw barti arall i’r achos) yn cael cyfle i ymateb. Unwaith y bydd yr holl dystiolaeth wedi dod i law, bydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â’r partïon, yn gwneud trefniadau ar gyfer gwrando’r achos.

Pwy sy'n cael copi o'r dystiolaeth a gyflwynir ar gyfer apêl neu gais?

Rhaid i bob parti i'r cais gael copi o dystiolaeth ei gilydd. Mae'r dystiolaeth hon yn cynnwys y ffurflen Hysbysiad Cais yn ogystal â'r holl ohebiaeth, papurau a dogfennau sydd wedi'u cyflwyno i'r Tribiwnlys gan y person sy'n gwneud yr apêl, gan y Comisiynydd fel yr ymatebydd, a chan unrhyw barti arall i’r achos. Bydd y panel Tribiwnlys hefyd yn cael copïau o'r holl dystiolaeth a dderbyniwyd gan y Tribiwnlys er mwyn medru ystyried yr achos.

Pa mor hir y mae'n rhaid aros o'r adeg pan fydd y Tribiwnlys yn cael cais i'r adeg pan fydd yn gwneud penderfyniad?

Bydd yr amserlen yn amrywio yn dibynnu ar y math o achos ond mae'r Tribiwnlys bob amser yn ceisio delio â cheisiadau'n brydlon a rhoi'r wybodaeth ddiweddarach i chi am hynt yr achos.

Beth yw ystyr y termau sy’n cael eu defnyddio gan y Tribiwnlys?

Ewch i’r dudalen Rhestr Termau.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi gan y Tribiwnlys?

Ewch i’r dudalen Cofrestr Cyhoeddiadau.

Gwrandawiad Tribiwnlys

Beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad Tribiwnlys?

Bydd y Tribiwnlys yn egluro'r weithdrefn ar ddechrau'r gwrandawiad. Bydd y ddau barti yn cael cyfle i gyflwyno eu hachos i'r Tribiwnlys a gofyn cwestiynau. Bydd aelodau'r Tribiwnlys yn gofyn cwestiynau hefyd i'w helpu i wneud penderfyniad. Gellir cael mwy o wybodaeth ar weithdrefnau’r Tribiwnlys yn adran Canllawiau a Ffurflenni y wefan hon.

Ble bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal?

Caiff gwrandawiadau eu cynnal ledled Cymru. Mae rhestr o wrandawiadau, gan gynnwys manylion Tribiwnlysoedd sydd i ddod, ar gael i’w gweld ar y dudalen Achosion. Rydym ond yn defnyddio llefydd sydd yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr anabl. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion penodol.

Pwy fydd yn y gwrandawiad?

Bydd yr apêl yn cael ei chlywed gan dri o aelodau’r Tribiwnlys. Dyma’r hyn a elwir y panel. Bydd un person ar y panel wedi ei gymhwyso’n gyfreithiol gan gadeirio’r cyfarfod. Fwy na thebyg bydd y ddau aelod arall yn aelodau lleyg. Mae gwrandawiadau’r Tribiwnlys ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Pwy sy’n cael arsylwi?

Bydd unrhyw un sy’n dymuno yn medru gweld y gwrandawiad, boed hynny fel aelod o’r cyhoedd neu fel cynrychiolydd y cyfryngau.

Beth yw gohiriad?

Mewn rhai amgylchiadau, gall y Tribiwnlys gytuno i ohirio gwrandawiad ond bydd angen ei ddarbwyllo bod cyfiawnhad dros wneud hyn.

Beth yw gohiriad?

Pan fo Tribiwnlys yn cael ei dorri’n fyr gan ail-ddechrau ar ddyddiad gwahanol.

Penderfyniadau

Sut mae’r Tribiwnlys yn dod at benderfyniad?

Bydd y Tribiwnlys yn gwneud ei benderfyniad drwy ystyried y dystiolaeth i gyd. Mae hyn yn cynnwys yr holl dystiolaeth a anfonir gan y partïon cyn y gwrandawiad a'r hyn sy'n cael ei ddweud yn ystod y gwrandawiad. Mae’r Penderfyniadau a wneir gan Dribiwnlys y Gymraeg ar gael i’w gweld yn yr adran Penderfyniadau.

Pa mor hir mae’n ei gymryd i Dribiwnlys ddod i benderfyniad?

Bydd y panel yn gwneud ei benderfyniad ar ôl ystyried y dystiolaeth i gyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn rhai wythnosau ar ôl y gwrandawiad ond mewn achosion mwy cymhleth, gall gymryd mwy o amser.

Beth os ydw i’n anghytuno gyda phenderfyniad y Tribiwnlys?

Fe all parti gwneud cais i’r Tribiwnlys i benderfyniad gan y Tribiwnlys gael ei adolygu mewn rhai achosion. Fe all parti hefyd, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar gwestiwn o gyfraith sy’n codi o benderfyniad gan y Tribiwnlys.

Gellir cael mwy o wybodaeth ar y dudalen Adolygu neu apelio yn erbyn Penderfyniad gan Dribiwnlys.